#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-783

Teitl y ddeiseb: Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cymraeg

Testun y Ddeiseb: Rwyf yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal Cymwysterau Cymru rhag parhau i wahaniaethu yn erbyn dysgwyr cyfrwng Cymraeg, a sicrhau cydraddoldeb ieithyddol o ran cwricwlwm ysgol.

Yn 2015, penderfynodd CBAC ollwng Seicoleg TGAU oherwydd niferoedd ymgeiswyr cymharol fach (37 canolfan - 5 yn rhai cyfrwng Cymraeg gyda 144 ymgeisydd cyfrwng Cymraeg bob blwyddyn). Oherwydd hyn, rhoddwyd gwahoddiad gan Gymwysterau Cymru (CC) i'r Cyrff Dyfarnu Saesneg; AQA, OCR, Pearson-Edexell,  gynnig y pwnc hwn, a rhai eraill e.e. Economeg, yng Nghymru.

Yn anffodus, ac yn anghrediniol, ni roddwyd unrhyw bwysau arnynt i gynnig y pynciau yma yn y Gymraeg. Ymateb Cymwysterau Cymru i hyn yw dweud y byddai'r Cyrff Saesneg yn gwrthod cynnig pynciau yng Nghymru yn gyfan gwbl pe tase nhw yn cael eu gorfodi i gynnig opsiwn Cymraeg, a bod CC yn ceisio sicrhau 'y dewis ehangaf o bynciau i ddysgwyr Cymru' (Cylchlythyr CC, Rhagfyr 2016).

'Y dewis ehangaf o bynciau i ddysgwyr Cymru'....heblaw eich bod yn dilyn addysg Gymraeg! Ym mis Medi, ni fydd cwrs Seicoleg TGAU blwyddyn 10 yn rhedeg yn fy ysgol am y tro cyntaf ers 2009, tra bod yr ysgol cyfrwng Saesneg ychydig filltiroedd i ffwrdd, yn cychwyn ar gwrs Seicoleg TGAU newydd yn Saesneg trwy AQA. Yr unig reswm pam nad wyf gallu cynnig y pwnc yw oherwydd ein bod yn dysgu drwy'r Gymraeg. Mae pedair canolfan Gymraeg arall yn yr un sefyllfa.

Mae angen Seicolegwyr sy'n gallu trafod eu pwnc drwy'r Gymraeg. Wrth amddifadu disgyblion cyfrwng Cymraeg rhag y cyfle i astudio Seicoleg TGAU drwy'r Gymraeg, dyna golli 144 myfyriwr y flwyddyn fyddai efo'r potensial o gyfrannu at Seicoleg - fel athro, darlithydd, therapydd, ymchwilydd a.y.b drwy'r Gymraeg yn hyderus oherwydd bod y derminoleg berthnasol yn gyfarwydd iddynt.

​Safodd 144 ymgeisydd bapur Uned 2 TGAU Seicoleg CBAC drwy'r Gymraeg i orffen y cwrs yn 2015, a 5 canolfan yn ei gyflwyno, felly mae potensial o niferoedd sylweddol, nid llond llaw. Rwyf wedi trefnu y byddai tri arholwr Seicoleg profiadol ar gael i weithio i unrhyw Fwrdd Saesneg fel na fyddai angen cyfieithu unrhyw sgriptiau (atebion) ymgeiswyr, ond y papur ei hun.

Yr unig Fwrdd Saesneg wnaeth hyd yn oed ystyried y cais (gen i, nid CC), oedd Pearson, ond gwrthod wnaethon nhw yn y diwedd gan ddweud 'y byddai angen Cymry Cymraeg ar bob lefel o gynhyrchu'r papurau'. Mae hynny'n nonsens llwyr oherwydd dydy hynny ddim yn digwydd hyd yn oed yn CBAC ble mae'r Prif Arholwr a'r Swyddog Pwnc yn ddi-Gymraeg!

Nid wyf yn beio'r Byrddau, oherwydd pam dyle nhw fynd i'r drafferth os nad oes rhaid iddyn nhw? Ar Gymwysterau Cymru y mae'r bai am eu polisi llipa, nad yw'n amddiffyn hawliau dysgwyr cyfrwng Cymraeg. Byddai hi wedi bod yn bosibl creu elfen o gystadleuaeth rhwng y Byrddau Saesneg trwy roi blaenoriaeth i rai a fyddai'n agored i'r syniad o gynnig opsiwn Cymraeg, ond doedd dim ymdrech i wneud hyn o gwbl.

Mae hyn yn hollol annerbyniol yn y Gymru Fodern. Os ydy Cyrff Dyfarnu Saesneg yn cael cynnig pynciau yng Nghymru, rhaid gwneud yn glir iddyn nhw bod angen cynnig papur Cymraeg ble mae cais rhesymol dros wneud hyn.

 

 

Penderfyniad CBAC i beidio â chynnig Seicoleg TGAU

Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd CBAC gylchlythyr yn nodi na fyddent yn parhau i gynnig Seicoleg TGAU (cyfrwng Cymraeg a Saesneg), gan ddweud:

Mae diwedd cyfnod datblygu'r cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch diwygiedig gerllaw a'r cyfnod cyflwyno ar fin dechrau. Oherwydd hynny, bydd yr hen fanylebau'n dechrau cael eu tynnu'n ôl yn raddol. Yn y rhan fwyaf o achosion disodlir hen gymhwyster gan gymhwyster diwygiedig cyfwerth. Fodd bynnag, ni fydd rhai o'r cymwysterau yn cael eu diwygio. Rydym yn cyfathrebu â chi yn awr er mwyn dwyn eich sylw at y cymwysterau hynny ac i roi rybudd buan y byddant yn cael eu tynnu'n ôl.

Yn achos rhai cymwysterau, ystyrir bod nifer y dysgwyr yng Nghymru yn rhy isel i unrhyw gorff dyfarnu ddatblygu cymwysterau i’w dyfarnu yng Nghymru yn unig. Os oes cymhwyster diwygiedig yn y pynciau hyn ar gael yn Lloegr, mae Cymwysterau Cymru wedi gwahodd cyrff dyfarnu i wneud cais iddynt gael eu dynodi ganddyn nhw i'w defnyddio mewn perthynas â rhaglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru. Un o’r cymwysterau hyn yw Seicoleg TGAU a gynigiwyd gan y corff dyfarnu Pearson i’w addysgu o 2017 ymlaen. Mae'r cymhwyster ar gael drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Cymwysterau Cymru

Cymwysterau Cymru yw'r corff annibynnol sy’n rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru ac mae’n gyfrifol am gymeradwyo a dynodi cymwysterau a ariennir yn gyhoeddus.  Dyma’r prif bwyntiau yn ymateb Cymwysterau Cymru i'r ddeiseb:

§    Nid oes unrhyw ofyniad ar gyrff dyfarnu (sy'n gyrff masnachol) i gynnig unrhyw gymhwyster rheoleiddiedig;

§    Nid yw nifer y dysgwyr yng Nghymru sy’n astudio pwnc penodol bob amser yn ddigonol i sicrhau bod y gwaith o ddatblygu cymhwyster ar wahân yn atyniadol yn fasnachol neu’n ymarferol;

§    Er y gall Cymwysterau Cymru osod amodau cydnabyddiaeth ar gyrff dyfarnu a gaiff eu rheoleiddio, y corff dyfarnu sy’n penderfynu a ddylid derbyn yr amodau a chynnig cymwysterau neu roi’r gorau i’w cynnig yn gyfan gwbl;

§    Nid yw pob corff dyfarnu yn dyfarnu pob pwnc; caiff rhai eu dyfarnu gan un corff yn unig gan nad oes ond prin ddigon o ddysgwyr arfaethedig i’w gwneud yn ymarferol cynnig y cymhwyster bl;

§    Mae Cymwysterau Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu gyhoeddi eu polisi ar asesu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond nid ydynt yn ei gwneud yn orfodol iddynt gynnig  darpariaeth Gymraeg rhag iddynt benderfynu peidio â chynnig eu cymhwyster yng Nghymru o gwbl.

Mewn perthynas â Seicoleg TGAU, mae Cymwysterau Cymru yn datgan:

§    Nid oedd Pearson yn bwriadu cynnig TGAU Seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg i'w addysgu o fis Medi 2017 ymlaen gan nad oedd digon o arholwyr a phersonél sicrhau ansawdd a oedd â’r sgiliau Cymraeg angenrheidiol;

§    Cynhaliwyd trafodaethau rhwng Pearson a CBAC i weld a allai Pearson ddefnyddio rhai o arholwyr CBAC, ond ni lwyddwyd i ddatrys y broblem mewn pryd i gymhwyster diwygiedig fod ar gael yn y Gymraeg erbyn Medi 2017;

§    Oherwydd yr amserlen ar gyfer y cwricwlwm newydd,  bydd y cymwysterau diwygiedig  yn debygol o redeg tan 2026 felly mae'n bosibl y gellid datblygu cymhwyster newydd i helpu i ddiwallu'r angen.

Camau y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu cymryd

 Yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth 2017, gofynnodd Llyr Gruffydd i Jane Hutt, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, am ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes am y prinder adnoddau addysgu dwyieithog sydd ar gael a'r effaith a gaiff hyn ar addysg Gymraeg.  Dywedodd Llyr Gruffydd (Cadeirydd)

 " ond mi wnes i ddeall heddiw na fydd TGAU seicoleg yn cael ei dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn un lle y flwyddyn nesaf, a hynny oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn ag argaeledd yr adnoddau angenrheidiol. Mae ysgolion Cymraeg Cymru wedi penderfynu peidio â darparu’r cwrs, ac mae ysgolion dwyieithog wedi dewis gwneud y cwrs Saesneg oherwydd eu bod nhw’n gwybod bod yr adnoddau ar gael. Nawr, y perygl yn hynny, wrth gwrs, yw yn y dyfodol bydd yr awdurdodau yn dweud nad oes galw am y fath adnoddau, ac felly rŷm ni’n gweld cylchdro dieflig gwbl annerbyniol yn datblygu, yn fy marn i, ac mae hynny filiwn o filltiroedd i ffwrdd, wrth gwrs, o ble dylem ni fod os ydym ni am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Mae e yn gadael ysgolion Cymraeg i lawr. Mae’n gadael athrawon sydd am ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i lawr, ac mae’n gadael disgyblion sydd am gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i lawr. Ac mae e’n tanseilio pob uchelgais sydd gan y Llywodraeth yma o safbwynt yr iaith Gymraeg. Felly, mi fyddwn i’n gofyn yn garedig i’r Gweinidog perthnasol ddod ger ein bron ni i esbonio’n union beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud, a sut maen  nhw’n tybio bod hyn yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd. "

Wrth ymateb, dywedodd Jane Hutt:

 " Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael tystiolaeth i gadarnhau'r pryderon hyn sydd wrth wraidd y cwestiwn hwn heddiw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf i, o ran seicoleg, bydd yn peidio â bod yn y Gymraeg a'r Saesneg yn 2018—Cymraeg a Saesneg—felly mae’n amlwg fod hynny yn rhan fawr o’r penderfyniad hwnnw, a hefyd, bod y llyfr bioleg TGAU ar gael fis Hydref y llynedd. Felly, nid ydym yn gwybod pam oedd yr ysgol dan sylw—yr wyf yn deall bod y cwestiwn hwn wedi deillio yn rhannol o’r fan honno— heb gael copi. Mae’n amlwg, felly, bod hwn yn fater o archwilio beth sy’n cael ei honni o ran cael y dystiolaeth ac ymateb priodol. "

Yn ei hymateb i'r ddeiseb hon, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mai mater i Gymwysterau Cymru yw cymeradwyo a dynodi cymwysterau fel Seicoleg TGAU.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.